(Please scroll down for the welsh translation)
Disability Wales in partnership with the Wales Governance Centre and WCVA’s Brexit Forum project, would like to invite you to join us for a roundtable discussion on the implications of Brexit for Disabled people and Disabled People’s Organisations (DPOs) in Wales. The purpose of this event will be to discuss the implications of Brexit for disabled people in areas such as legal rights, health and social care and accessibility. Informed by your views and leading experts in this field we aim to produce a briefing, also available in Easy Read format, to support with communicating information on Brexit relevant to the sector.
We are also pleased that we will be joined by:
This event will take place on 6 June from 13:30 to 16:30 in room 0.22 at Cardiff University’s Postgraduate Teaching Centre and will see contributions from:
Please can you let us know of any access requirements you may have to enable you to fully participate in the event e.g. Blue Badge parking, BSL Interpretation, Palantype etc.
We have some budget to help with travel expenses for this event for disabled people and representatives of unfunded DPOs. If you would like to attend and are travelling from outside of Cardiff, please get in touch with Charles Whitmore (whitmorecd@cardiff.ac.uk) to discuss first as the budget is limited.
The Postgraduate Teaching Centre is located off Colum Road close to the business school. Access by car will be through barriers – after which please follow the road right. The PTC is the 2nd building. Parking will be available on site.
——————————————————————————————————————————————————–
Hoffai Anabledd Cymru, ar y cyd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a phrosiect Fforwm Brexit WCVA, eich gwahodd i ymuno â ni mewn trafodaeth ford gron ar oblygiadau Brexit i Bobl Anabl a Mudiadau Pobl Anabl yng Nghymru. Diben y digwyddiad fydd trafod goblygiadau Brexit i bobl anabl mewn meysydd fel hawliau cyfreithiol, iechyd a gofal cymdeithasol a hygyrchedd. Gyda chymorth eich barn chi ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes bwriadwn lunio papur briffio, a fydd ar gael ar ffurf Hawdd ei Darllen hefyd, i gynorthwyo i gyfathrebu gwybodaeth ynglŷn â Brexit sy’n berthnasol i’r sector.
Rydym hefyd yn falch o groesawu:
Cynhelir y digwyddiad hwn ar 6 Mehefin rhwng 13:30 a 16:30 yng Nghaerdydd (lleoliad i’w gadarnhau) a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan:
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion sydd gennych o ran mynediad i’ch galluogi i gymryd rhan lawn yn y digwyddiad e.e. parcio Bathodyn Glas, Dehongli BSL, Palantype ayyb.
Mae gennym rywfaint o arian i gynorthwyo gyda chostau teithio i’r digwyddiad hwn i bobl anabl a chynrychiolwyr Mudiadau Pobl Anabl di-nawdd. Os hoffech ddod ac rydych yn teithio o’r tu allan i Gaerdydd, cysylltwch â Charles Whitmore (whitmorecd@cardiff.ac.uk) i drafod y mater yn gyntaf gan fod y gyllideb yn gyfyngedig.
Mae’r Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig wedi’i lleoli oddi ar Colum Road yn agos at yr ysgol fusnes. Bydd mynediad mewn car trwy rwystrau – ar ôl hyn, dilynwch y ffordd i’r dde. Y PTC yw’r ail adeilad. Bydd parcio ar gael ar y safle.