Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – diweddariad
Annwyl Gyfaill,
Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r hyn sydd i ddod yn nhymor yr haf.
Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth
Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 7 Ebrill 2022.
Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’n hargymhellion ym mis Mai.
Anghydraddoldebau iechyd meddwl
Fel rhan o’n hymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl, gwnaethom gynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar 24 Mawrth 2022 er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer ein gwaith. Cynhaliwyd y sesiynau hyn gyda sefydliadau iechyd meddwl, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn.
Cyfeiriodd y sesiynau hyn at y dystiolaeth ysgrifenedig a gawsom gan fwy na 90 o bobl a sefydliadau, yn ogystal â’r grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym gyda thua 80 o bobl sydd wedi cael profiadau byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn, a’r gwaith y byddwn yn canolbwyntio arno nesaf, yn ein blog.
Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gwnaethom gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl hon, sef yr Athro Medwin Hughes, ar 28 Mawrth 2022.
Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 30 Mawrth 2022.
Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
Daeth y broses o gasglu tystiolaeth i ben ar 24 Mawrth 2022, pan wnaethom gynnal sesiwn gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn nhymor yr haf.
Iechyd menywod a merched
Gwnaethom gynnal sesiwn untro ar iechyd menywod a merched ar 10 Mawrth 2022, gan archwilio’r dystiolaeth ar gyfer cynllun iechyd i fenywod a merched a’r hyn y dylai ei gynnwys.
Gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 25 Mawrth 2022 er mwyn tynnu sylw at y materion allweddol a godwyd yn ystod y sesiwn.
Ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU
Ar 1 Ebrill 2022, gwnaethom ysgrifennu at Gadeirydd yr ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU a’r Prif Weinidog er mwyn datgan ein barn ar gylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad dan sylw.
Gweithgareddau eraill y Pwyllgor
Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yma, ynghyd â’i flaenraglen waith, ar ein gwefan. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter: @SeneddIechyd.