Un o’r rhwydweithiau y mae C3SC yn falch o’i gefnogi yw Rhwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd (RhAGC), sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o addysg, cynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae gan y rhwydwaith dros 100 o aelodau ac mae’n hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i ysgolion, colegau a’r cyhoedd yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos. Mae RhAGC yn gweithredu ers nifer o flynyddoedd ac mae’n rhwydwaith cyfansoddedig.
Mae croeso i aelodau C3SC a GVS sydd â diddordeb mewn addysg, yr amgylchedd a chynaliadwyedd ddod yn aelodau o RhAGC. Y rhwydwaith yw’r modd y bydd C3SC yn casglu barn sefydliadau trydydd sector a chymunedau ar bynciau perthnasol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli drwy sianeli cyfredol – megis mewn partneriaethau statudol ac ymgynghoriadau.
Cyfleoedd am gyllid
- Viridor a Chronfa Gymunedol Prosiect Gwyrdd. Cynhelir cyfarfodydd panel bob chwarter tuag wythnos gyntaf y mis ym mis: Mawrth, Mehefin, Medi a Thachwedd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 1 mis cyn cyfarfod y panel a bydd ceisiadau’n cael eu hanfon at y panel bythefnos cyn y cyfarfod.
Newyddion a gwybodaeth arall
- Mae Cymru Gynaliadwy yn cynnig cymorth am ddim i grwpiau cymunedol i leihau eu hôl troed carbon.
- Edrychwch ar wefan Trawsnewid Caerdydd yn http://cardifftransition.com/
________________________________________
I ddysgu mwy:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd, cysylltwch: e-bostio enquiries@c3sc.org.uk neu drwy ffonio (029) 2048 5722. Mae aelodaeth am ddim.