Share this article

the RP Rectangular Cym

Mae’r prosiect Gwydnwch, prosiect arloesol i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a allai fod wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, yn cael ei dreialu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r adnoddau’n cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl i ysgolion cynradd ac uwchradd dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Iechyd Meddwl, fel rhan o weledigaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ar gyfer sector iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Mae Arian Trawsnewid Llywodraeth Cymru wedi’i roi drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r prosiect newydd a arweinir gan seicoleg yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd meddwl presennol y bwrdd iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae’n gweithio ar y cyd ag adrannau addysg awdurdodau lleol. Mae eisoes wedi helpu 147 o deuluoedd yn uniongyrchol ac wedi hyfforddi mwy na 500 o weithwyr proffesiynol.

Cefnogir y prosiect gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a’i nod yw magu gwydnwch iechyd meddwl plant a phobl ifanc drwy leoliadau addysgol, yn hytrach na’r dewisiadau eraill mwy nodweddiadol yn y clinig.

Mae’n cael ei gyflawni drwy gynnig adnoddau newydd a hyfforddiant pwrpasol i staff addysg, yn ogystal ag ymgynghoriadau dan arweiniad clinigwyr ar gyfer staff addysg. Mae’r prosiect hefyd yn cyflawni gwaith grŵp sy’n hybu iechyd meddwl plant, yn ogystal ag ymyriadau uniongyrchol gyda phlant a’u teuluoedd.

Mae’r Prosiect Gwydnwch wedi bod ar waith  ers 18 mis ac wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall. Gellir cael yr adnoddau drwy fynd i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Tags: ,
Neges Gan Ein Prif Swyddog Gweithredol
Arolwg Ymchwil ar gyfer Gwylwyr – negeseuon a awgrymir ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content