Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi lansio arolwg i holi myfyrwyr a hoffai gymryd rhan mewn grwpiau ffocws fel rhan o’i ymchwiliad parhaus i effaith Covid-19 ar bobl ifanc. https://www.surveymonkey.co.uk/r/uni_life
Mae gan Youth Cymru llawer o gyfleoedd / adnoddau i bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid ar hyn o bryd. Dyma ychydig o’r cyfleoedd sydd ar gael. Os hoffech ddarganfod mwy, cysylltwch â [email protected]
– Bydd Llais Ifanc (eu Grŵp Cynghori Ieuenctid) yn cynnal digwyddiad Hystings ym mis Chwefror cyn Etholiadau’r Senedd. Cyn hyn, maent wedi sefydlu arolwg i gasglu cwestiynau pobl ifanc os na allant fynychu’r hystings bit.ly/2KxXfah
– Prosiect Arbedwch eich ynni – Nod y prosiect hwn yw targedu pobl ifanc 16-25 sydd mewn rhyw ffordd yn gyfrifol am y biliau gwresogi a thrydan yn eu cartref. Mae Youth Cymru yn cynnig sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr am ddim ar sut i ddefnyddio eu hadnodd pecyn cymorth ‘Arbedwch Eich Ynni’.
Bydd yr NSPCC yn lansio’r ‘Young People’s Board for Change’ yn fuan. Mae ceisiadau ar agor i bobl ifanc 13-16 oed tan Ionawr 11eg. https://www.nspcc.org.uk/about-us/what-we-do/board-for-change/
Mae Project Hope, prosiect dan arweiniad pobl ifanc i helpu pobl ifanc sy’n teimlo’n unig wedi lansio’r ffurflen enwebiadau ar gyfer eu Rhestr Anrhydeddau Pobl Ifanc a fydd yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Ionawr. Mae nhw eisiau clywed am y bobl ifanc anhygoel o dan 25 oed rydych chi’n eu hadnabod. Mae’r enwebiadau ar agor tan Dydd Gwener 15fed Ionawr. https://forms.gle/kLhcrWZXYD7XkwUW6
Ac yn olaf, neges gan Step Up To Serve, cydlynwyr yr Ymgyrch #iwill/#byddaf:
‘Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflawni cymaint gyda’n gilydd, ac mae eich rôl yn y newid hwnnw wedi bod yn sylweddol. Cymerwch ychydig o amser i edrych ar ein prosiect effaith “Realising the Power of Youth Together: The Stories of #iwill” sy’n edrych dros y 7 mlynedd diwethaf ar beth yr ydym wedi’i gyflawni. Mae’n dod a bron i 100 o leisiau a phrofiadau partneriaid a llysgenhadon #iwill/#byddaf, at ei gilydd, i adrodd stori’r ymgyrch hyd yma. Am daith!
Mae Step Up To Serve yn cau ar ddiwedd 2020, ond mae angen mwy na erioed ar y mudiad #iwill/#byddaf. Rydym yn adeiladu ar y cyflawniadau dros y saith mlynedd diwethaf ac yn tyfu’r mudiad, oherwydd ni fu ein cydweithredu erioed yn bwysicach. Bydd ymdrechion cyfunol y mudiad #iwill/#byddaf yn cael eu harwain gan y Bartneriaeth #iwill – grŵp traws-sector newydd ledled y DU a gyfarfu am y tro cyntaf yr wythnos hon. Bydd y Bartneriaeth #iwill yn sicrhau bod y mudiad cyfan ar y cyd yn gyrru cynnydd ar y 4 Nod Effaith #iwill, yn cynnal gwerthoedd #iwill, ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwneud ymrwymiadau trwy’r Siarter Pwer Ieuenctid.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Volunteering Matters ac UK Youth i gynnal Hwb Cydlynu #iwill annibynnol a pharhau â’r rhaglen Llysgenhadon a Hyrwyddwyr i gefnogi’r Bartneriaeth #iwill a’r symudiad ehangach.’