Latest NewsNews

Croeso i UrddSgilio!

Share this article

Mae’r Urdd yn lansio rhaglen o gyrsiau a chymwysterau gall helpu ieuenctid Cymru ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd gwaith.

Mae UrddSgilio yn addas i unrhyw un sydd eisiau:

  • gwella sgiliau rhifedd / cyfathrebu / digidol
  • profiad yn y sector chwaraeon
  • gwella’r sgiliau a fydd yn eich helpu i gael swydd

Er mwyn profi UrddSgilio, rydym yn cynnig cyfres o sesiynau blasu sy’n rhoi syniad o beth i’w ddisgwyl wrth gwblhau ein cyrsiau, pob un yn Gymraeg.  Maent yn sesiynau rhithiol bydd yn para tua 30 munud ar gyfer unrhyw un rhwng 16 a 25 oed, ac yn rhad ac am ddim.

Pa sesiynau blasu sydd ar gael?

Rhifedd – Chwefror 14 am 4:30yh

Sesiwn sy’n dangos sut i gymharu contractau ffonau symudol er mwyn gallu gwneud y dewis gorau.

Chwaraeon – Chwefror 16 am 4:30yh

Sesiwn sy’n dangos sut i ddelio ag agwedd a chyfrifoldebau fel arweinydd chwaraeon.

Cyfathrebu – Chwefror 21 am 4:30yh

Sesiwn sy’n dangos ambell dechneg perswadio i’w ddefnyddio ar lafar o ddydd i ddydd ac yn y gweithle.

Cyflogadwyedd – Chwefror 23 am 4:30yh

Sesiwn sy’n dangos sut i strwythuro CV a’i addasu yn ôl gofynion y swydd.

Llythrennedd Digidol – Chwefror 28 am 4:30yh

Sesiwn sy’n dangos sut i ddefnyddio technegau creadigol i ddenu sylw wrth gwblhau tasgau’n ddigidol.

Bydd modd dewis gwneud cymwysterau er mwyn cael tystysgrif a’r profiad llawn neu gwblhau yr unedau bydd yn cynnig y budd mwyaf.  Bydd tiwtoriaid profiadol Adran Prentisiaethau’r Urdd ar gael i gynnig pob cymorth bydd ei angen er mwyn cwblhau’r cyrsiau.

Mwy o wybodaeth a manylion cofrestru yma: Sesiynau Blasu | Urdd Gobaith Cymru

E-bost: [email protected]

Tags: ,
Prifysgol Caerdydd – Prosiect Restrain
Rhwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content